Mae dyn wedi ei gyhuddo o dwyllo’r Loteri Genedlaethol o £2.5m, wrth greu ticed ffug er mwyn hawlio’r jacpot.

Plediodd Edward Putman, 53, o Swydd Hertfford, yn ddieuog i un cyfrif o dwyll pan ymddangosodd yn Llys Ynadon St Alban’s ddoe (dydd Mawrth, Hydref 16).

Yn ôl y cyhuddiad, fe grëodd y ticed ar  Fedi 1, 2009 yn Watford, ble mae prif swyddfa Canelot, y cwmni sy’n rhedeg y Loteri Genedlaethol.

Dywed Heddlu Sir Hertfford bod eu hadran dwyll wedi dechrau archwilio yn 2015 pan ddaeth tystiolaeth nad oedd yr hawliad am yr arian yn ddilys.

Ni hawliodd neb y jacpot £2.5m ym mis Mawrth 2009, ond fe gafodd y ticed buddugol ffug ei greu cyn dyddiad cau hawlio’r arian.

Fe roddodd Camelot y swm enfawr o arian i Edward Putman ar y pryd.

Mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth yn ddiamod ac mae dusgwyl iddo ymddangos eto gerbron Llys y Goron St Albans ar Dachwedd 19.