Mae achos dirmyg Tommy Robinson, arweinydd grŵp yr English Defence League (EDL), wedi dychwelyd i’r Old Bailey.
Roedd y diffynnydd – neu Stephen Yaxley-Lennon i roi idfo ei enw gwreiddiol, a’i gyfreithwyr yn absennol yn y gwrandawiad heddiw.
Rhoddodd y barnwr Nicholas Hillard ddyfarniad byr yn cadarnhau y byddai’n delio â’r achos yn yr Old Bailey ar Hydref 23.
Cafodd Tommy Robinson ei ryddhau o’r carchar ym mis Awst ar ôl i dri barnwr ddiddymu dedfrydau o ddirmyg llys yn Llys y Goron, Leeds.
Fe allai Tommy Robinson, 35, orfod dychwelyd i’r carchar os y caiff ei ddyfarnu’n euog am ffilmio pobol mewn achos troseddol yn Leeds cyn darlledu’r fideo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Adran 41 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 yn ei gwneud hi’n drosedd i dynnu lluniau o bobol yn y llys.