Mae plismyn Gwlad Thai wedi gwrthod honiadau gan dwrist o wledydd Prydain iddi gael ei threisio ar un o’r ynysoedd gwyliau yn gynharach eleni.

Mae’r ymchwiliad wedi methu â dod o hyd i unrhyw dystiolaeth sy’n cefnogi ei honiadau, meddai’r awdurdodau.

Fe fu rhai o swyddogion yn Lloegr i siarad â’r ferch 19 oed, ond fe ddaethon nhw i’r casgliad nad oedd hi’n gallu cynnig manylion allweddol ynglyn â lle’n y digwyddodd y drosedd, na disgrifio’r dyn, nac egluro be’n union ddigwyddodd.

Maen nhw, felly, wedi dod i’r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i allu bwrw ymlaen ag achos.

Mae’r ddynes wedi dweud wrth newyddiadurwyr iddi gael ei rhoi i gysgu wedi i’w diod gael ei sbeicio ar ynys Koh Tao ym mis Mehefin eleni, Pan ddeffrodd, meddai, roedd hi ar draeth, ac wedi cael ei threisio; ac roedd rhywun wedi dwyn ei bag hefyd.