Mae disgwyl i ffracio ddechrau yn Swydd Gaerhirfryn heddiw (dydd Llun, Hydref 15).

Roedd y cwmni ynni Cuadrilla wedi gobeithio dechrau ar y gwaith yn Little Plumpton ger Blackpool ddydd Sadwrn, ond fe gafodd ei ohirio oherwydd Storm Callum.

Mae’r gwaith yn dechrau ar ol i ymgais gan ymgyrchydd amgylcheddol, Bob Dennett, yn yr Uchel Lys ddydd Gwener (Hydref 12) fethu ag atal y gwaith rhag mynd yn ei flaen.

Gwrthododd Mr Ustus Supperstone y cais i wahardd cwmni Cuardilla i ddechrau ffracio sy’n defnyddio dull newydd, llorweddol.

Honnodd Bob Dennet bod cynlluniau argyfwng Cyngor Swydd Gaerhirfryn yn annigonol, ond dywedodd y barnwr nad oedd yn “fater difrifol.”

“Ffynhonnell newydd o nwy naturiol”

Ar ôl y dyfarniad, dywedodd Franics Egan, prif weithredwr Cuadrilla; “Rydym wrth ein bodd yn dechrau ffynhonnell newydd o nwy naturiol yn Swydd Gaerhirfryn.

“Os gellir ei adennill yn fasnachol, bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar gyflenwad ynni a chyflenwad ynni ar gyfer y Deyrnas Unedig.”