Mae Prif Weinidog Theresa May yn wynebu gwrthdystiad gan y Blaid Geidwadol a’r DUP ar drothwy uwchgynhadledd Brexit.

Wrth i’r trafodaethau barhau cyn y cyfarfod ym Mrwsel ddydd Mercher, mae yna frwydr tros gynllun a allai weld Prydain yn aros yn rhan o’r undeb tollau er mwyn osgoi ffin galed ag Iwerddon.

Mae cyn-Ysgrifennydd Brexit San Steffan, David Davis yn dweud bod y cynllun yn “hollol annerbyniol”, gan annod aelodau’r Cabinet i “weithredu ar eu hawdurdod”.

Yn y cyfamser, mae arweinydd y DUP, Arlene Foster o’r farn mai dim cytundeb yw’r canlyniad mwyaf tebygol erbyn hyn.

Mae’r blaid yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i aros yn rhan o’r undeb tollau a fyddai’n gweld Gogledd Iwerddon yn wynebu mesurau pellach ar nwyddau sy’n teithio i wledydd Prydain ac yn ôl.

Mae pryderon y gallai aelodau’r Cabinet oedd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd ymddiswyddo pe bai Theresa May yn mynd yn ei blaen â’r cynllun.

‘Un o’r penderfyniadau mwyaf sylfaenol’

Yn ôl y cyn-Ysgrifennydd Brexit, David Davis, dyma un o’r “penderfyniadau mwyaf sylfaenol i’w wneud gan y llywodraeth yn yr oes sydd ohoni”.

Mewn erthygl yn y Sunday Times, dywedodd, “Mae’n bryd i’r Cabinet weithredu ar eu hawdurdod gyda’i gilydd. Yr wythnos hon, mae awdurdod ein cyfansoddiad yn y fantol.”

Datrys ffiniau Iwerddon yw un o’r heriau olaf yn y trafodaethau â Brwsel.

Mae Brwsel am weld Gogledd Iwerddon yn ufuddhau i reolau’r Undeb Ewropeaidd, ond dydy hynny ddim yn dderbyniol i Theresa May na’r DUP.

Mae Theresa May yn galw am drefniadau dros dro i wledydd Prydain gyda’i gilydd, ond mae gwrthdystwyr o fewn y Blaid Geidwadol yn gofidio y gallai’r fath drefniadau droi’n barhaol.

Cabinet Llywodraeth Prydain

Mae o leiaf naw o aelodau’r Cabinet yn awyddus i weld Theresa May yn newid cyfeiriad ddydd Mawrth, meddai’r Sunday Times.

Pe na bai hynny’n digwydd, mae pryderon y gallai Andrea Leadsom, Penny Mordaunt ac Esther McVey fod ymhlith y rhai sy’n ymddiswyddo.

Ac yn ôl y papur newydd, fe allai trefniadau arbennig ar gyfer Gogledd Iwerddon arwain at ymddiswyddiadau dau aelod seneddol Albanaidd, yr arweinydd Ruth Davidson ac Ysgrifennydd yr Alban David Mundell, gan y gallai’r sefyllfa arwain at fwy o alw am annibyniaeth.

Mae awgrym, hyd yn oed, y gallai swydd Theresa May fod yn y fantol, gyda hyd at 44 o lythyron yn mynnu cynnal pleidlais o ddiffyg hyder – dim ond pedwar enw yn llai na’r nifer sydd ei angen er mwyn cynnal y bleidlais honno.

Yn ôl trefniadau’r llywodraeth bresennol, mae’r Ceidwadwyr yn dibynnu ar gefnogaeth 10 aelod o’r DUP yn San Steffan ac mae awgrym fod Arlene Foster yn barod i wrthod unrhyw ymgais gan Theresa May i fynd yn ei blaen â’i chynlluniau.