Mae gorymdaith gan Gynghrair Ddemocrataidd Bois Pêl-droed (Democratic Football Lads’ Alliance) drwy strydoedd Llundain wedi troi’n dreisgar.

Mae cannoedd o bobol wedi bod yn gorymdeithio o Park Lane i Whitehall, ac fe fu gwrthdaro difrifol â’r heddlu, a rhai ohonyn nhw’n bloeddio ‘Strydoedd pwy? Ein strydoedd ni’.

Dechreuodd dwsinau o orymdeithwyr ymladd â’r heddlu, ac un ohonyn nhw’n bygwth eu lladd.

Fe fu ceffylau a cherbydau’r heddlu’n ceisio eu tawelu.

Ar eu tudalen Facebook, dywedodd y gorymdeithwyr eu bod yn protestio yn erbyn “croesawu jihadwyr”, “miloedd o ffoaduriaid sydd ar goll”, “treisio gan gangiau a pharatowyr” a “chyn-filwyr yn cael eu trin fel bradychwyr”.