Mae’r heddlu ym Mryste yn ymchwilio i lofruddiaeth 21 oed yn dilyn ymosodiad arno ddydd Mawrth.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gysylltu ag ail ymosodiad yn ardal Fishponds y ddinas ar yr un noson.
Yn y digwyddiad arall, cafodd dyn 48 oed anafiadau difrifol, ac mae mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Mae tri dyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.
Dydy’r dyn 21 oed ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn, ond mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.
Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.