Mae arbenigwyr wedi mynegi pryderon am effaith tocsinau ar drigolion yn ardal Tŵr Grenfell yn Llundain ar ôl cynnal profion ar y pridd, yn ôl papur newydd y Guardian.

Fe ddaeth yr Athro Anna Stec, oedd yn gyfrifol am yr astudiaeth, o hyd i lefel uchel o wenwyn yn y pridd a’r llwch a allai achosi canser, a hynny mewn pridd hyd at filltir i ffwrdd o safle’r tân yng ngorllewin Llundain.

Mae hi wedi rhybuddio swyddogion iechyd, yr heddlu a Chyngor Kensington a Chelsea fod angen cynnal rhagor o brofion yn sgil hynny.

Dywedodd fod angen “llawer mwy o ddadansoddi cyn y gallwn fod yn gwbl sicr o’r goblygiadau”, ac y bydd angen dilysu’r canfyddiadau cyn eu cyhoeddi’n llawn.

Y tân

Bu farw 71 o bobol yn y tân ar 14 Mehefin y llynedd, ac fe fu farw un person arall yn yr ysbyty fisoedd wedi hynny.

Fis diwethaf, cafodd yr Athro Anna Stec ei galw fel tyst ac arbenigwraig gan yr ymchwiliad cyhoeddus.

Bydd hi’n cyflwyno adroddiad maes o law ar lefelau gwenwyn yn y tŵr a’r ardal gyfagos, a sut y daethon nhw i fod yn yr ardal honno.

Ymateb Iechyd Cyhoeddus Lloegr

Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi pwysleisio droeon nad oedd ganddyn nhw bryderon am ansawdd yr aer o amgylch Tŵr Grenfell cyn y tân.

Dywedodd llefarydd nad yw’r corff wedi gweld data yr Athro Anna Stec, ond eu bod yn monitro’r sefyllfa’n gyson.

“Rydym yn parhau i gefnogi partneriaeth iechyd lleol yn llawn, ynghyd â chymuned Grenfell,” meddai’r llefarydd, “er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw fynediad i’r dystiolaeth a’r cyngor gorau ar iechyd cyhoeddus er mwyn parhau i fonitro pobol sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan y tân.”