Mae hyd at £2m o arian y trethdalwr yn cael ei wario ar wasanaethau diogelwch ym mhriodas y Dywysoges Eugenie a Jack Brooksbank yn Windsor heddiw.
Ymysg yr enwogion sydd yng Nghapel St George’s mae’r cantorion pop Robbie Williams, Ellie Goulding, James Blunt a Ricky Martin a’r eiconau ffasiwn Kate Moss a Cara Delevingne.
Yno hefyd mae’r digrifwyr Jack Whitehall, Jimmy Car a Stephen Fry a’r cyn-bêl-droediwr Jamie Redknapp.
Yn gynharach eleni, cafodd hyd at £4 miliwn o arian y trethdalwr ei wario ar ddiogelu priodas Tywysog Harri a Meghan Markle a £6.35 m oedd y gost ym mhriodas Tywysog William a Kate Middleton.
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.