Mae gweithwyr o gefndiroedd lleiafrifol yn wynebu “rhwystrau anorchfygol” sy’n eu hatal rhag “gwireddu eu potensial”, yn ôl Theresa May.

Daw sylw’r Prif Weinidog wrth iddi lansio canllawiau i fusnesau ynglŷn â sut i “greu cyfleoedd” i  bobol o leiafrifoedd ethnig yn y gweithle.

Fe allai busnesau gael eu gorfodi i ddatgelu faint mae aelodau staff o leiafrifoedd ethnig yn ei ennill o gymharu â gweithwyr eraill.  

Daw’r cam yn dilyn ‘Archwiliad i Wahaniaethau rhwng yr Hiliau’ y llynedd, a ddangosodd bod rhai grwpiau yn ennill mwy o dâl nag eraill.  

Gwireddu potensial

“Mae pob gweithiwr yn haeddu gwireddu eu potensial yn eu maes penodol,” meddai Theresa May, “A ddylai eich cefndir ddim fod yn rhwystr.

“Dyna pam dw i wrth fy modd i lansio’r ‘Siarter Hil yn y Gweithle’, a fydd yn rhoi canllawiau clir i fusnesau ynglŷn â sut i greu rhagor o gyfleoedd i weithwyr o leiafrifoedd ethnig.”