Roedd y ddau ddyn sy’n cael eu hamau o wenwyno cpyn-ysbïwr o Rwsia wedi ei ddilyn yn ystod ymweliad â’r Weriniaeth Tsiec yn 2014, yn ôl adroddiad.

Yn ôl radio cyhoeddus yn y weriniaeth, fe ymwelodd Sergei Skripal â’r wlad ym mis Hydref 2014 er mwyn cynorthwyo’r awdurdodau i adnabod ysbïwyr o Rwsia.

Mae lle i gredu hefyd bod y ddau asiant o’r GRU, a oedd yn defnyddio’r enwau ffug, Alexander Petrov a Ruslan Borishov, yn dilyn Sergei Skripal yn gyfrinachol ar yr adeg honno.

Mae’r heddlu yng ngwledydd Prydain yn dweud mai’r ddau ddyn hyn oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn Salisbury ym mis Mawrth eleni, gan ddefnyddio’r nwy nerfol, Novichok, i wenwyno Sergei Skripal a’i ferch, Yulia.

Mae Rwsia’n parhau i wadu’r cyhuddiadau, a dyw’r gwasanaeth gwybodaeth yn Weriniaeth Tsiec ddim am gadarnhau os yw adroddiad y radio yn wir neu beidio.