Mae Gweinidog Atal Hunanladdiad newydd llywodraeth San Steffan wedi gwneud jôc yn y gorffennol am daflu ei hun oddi ar Beachy Head – ardal sy’n adnabyddus fel man lle mae pobol yn mynd i ladd eu hunain.

Dywedodd Jackie Doyle-Price wrth bapur newydd lleol The Thurrock Gazette yn 2014 y byddai’n well ganddi “neidio oddi ar Beachy Head nag ymuno â phlaid UKIP”. Roedd adroddiadau ar y pryd ei bod hi am adael y Ceidwadwyr.

Mae Llafur wedi beirniadu’r sylwadau “amhriodol” ac “annerbyniol”.

Ymhlith dyletswyddau’r gweinidog newydd fydd ceisio rhoi terfyn ar y stigma sy’n perthyn i salwch iechyd meddwl sy’n atal pobol rhag ceisio cymorth.

Mae tua 20 o bobol yn lladd eu hunain yn Beachy Head yn Nwyrain Sussex bob blwyddyn.

Mae cymorth yn cael ei gynnig yn gyson yn yr ardal i bobol sy’n mynd yno yn y gobaith o’u perswadio i beidio â lladd eu hunain.