Mae cwpwl o wledydd Prydain ymysg y chwech o bobol sydd wedi marw mewn llifogydd dros nos yn Majorca.

Mae ref Sant Llorenc, 40 milltir i’r dwyrain o Palma, ei tharo gan law trwm nos Fawrth (Hydref 9).

Y gred ydi fod y cwpwl yn teithio mewn tacsi pan gawson nhw eu dal yn y llifogydd. Roedd y tywydd mor wael nes bod milwyr Sbaen wedi’u recriwtio i helpu.

Mae asiantaeth dywydd Sbaen yn adrodd bod tua wyth modfedd o law wedi disgyn mewn pedair awr yn rhai rhannau o’r ynys.

Fe gadarnhaodd dirprwy faer Sant Llorenc, Antonia Bauza, wrth orsaf radio Cadena SER, bod dau o wledydd Prydain wedi’u lladd ynghyd â dau berson lleol.