Mae disgwyl i Gyngor Caeredin agor dwy ysgol cyfrwng Gaeleg yr Alban erbyn 2024, er gwaethaf pryderon am brinder athrawon sy’n medru’r iaith.

Yn ôl cyfrifiad 2011, dim ond 1.1% o boblogaeth y wlad sy’n gallu siarad Gaeleg yr Alban, ond mae cyngor y brifddinas yn gobeithio agor un ysgol gynradd yn 2023, ac un ysgol uwchradd yn 2024 yn sgil mwy o alw.

Yn ysgol Bun-Sgoil Taobh na Pairce, mae yna 20 o athrawon sy’n siarad Gaeleg yr Alban.

Ond yn Ysgol Uwchradd James Gillespie, fe fu ymdrechion i recriwtio rhagor o athrawon sy’n medru’r iaith, er bod llai o wersi bellach yn cael eu dysgu trwy gyfrwng yr iaith.

Erbyn mis Chwefror 2020, mae disgwyl cyllid er mwyn agor ysgol blynyddoedd cynnar a chynradd, ynghyd ag ysgol uwchradd, a bydd swyddog iaith yn cael ei benodi er mwyn cydweithio â’r gymuned o siaradwyr yr iaith.

Mae’r cynlluniau’n cael eu croesawu fel cam mawr ymlaen i’r iaith.