Mae’r targed o sicrhau annibyniaeth i’r Alban “yn glir mewn golwg”, meddai Nicola Sturgeon.

Daw sylwadau Prif Weinidog yr Alban wrth iddi annerch cynhadledd yr SNP yn Glasgow heddiw (dydd Mawrth, Hydref 9).

Mae’n dweud bod San Steffan yn straffaglu o “drychineb i drychineb” wrth i’r dyddiad ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd agosáu.

“Meddyliwch beth y gallwn ni ei wneud pe bawn ni’n rhydd o’r anhrefn a methiant San Steffan?” meddai.

“Meddyliwch faint mwy o obaith a fydd pan fyddwn ni’n derbyn dyfodol yr Alban yn ein dwylo ni ac yn dod yn wlad annibynnol?

“Bydd yr Alban annibynnol, fel y mae’r Alban ar hyn o bryd, yn ffagl ar gyfer gwerthoedd blaengar – cyfartaledd, cyfleoedd, amrywiaeth a thegwch.

“Yn wir, mae’r gwerthoedd hynny’n bwysicach i mi ar hyn o bryd nag y maen nhw wedi bod ar unrhyw adeg o’m bywyd.”

Dim ail refferendwm i’r Alban eto?

Ond mae Nicola Sturgeon yn oedi rhag galw’n uniongyrchol am ail refferendwm tros annibyniaeth i’r Alban.

Yn hytrach, mae’n pwysleisio ei bod yn cefnogi’r angen i roi llais i’r bobol tros unrhyw gytundeb a fydd yn dod o’r trafodaethau ar Brexit.

“Mae’n anrhefn llwyr,” meddai am Lywodraeth Geidwadol Theresa May wedyn. “Mae’n anodd gwylio beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf heb deimlo ofn.”