Myfyrwyr Bryste’n cael cyfle i fynd ar ‘gwrs hapusrwydd’
Diweddarwyd
Llun parth cyhoeddus CC0
Prifysgol Bryste yw’r sefydliad addysg uwch cyntaf yng ngwledydd Prydain i lansio ‘cwrs hapusrwydd’ ar gyfer myfyrwyr, gyda’r nod o’u helpu i feithrin technegau ar gyfer byw bywyd mwy cyflawn.
Does dim rhaid i’r un stiwdant fynd ar y cwrs deg wythnos sy’n dechrau y tymor hwn ac sy’n tynnu ar yr ymchwil ddiweddaraf ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.
Mae’n edrych ar yr hyn ydi hapusrwydd; sut i ymgyrraedd ato; ac yn dysgu arferion pendant i fyfyrwyr geisio eu rhoi ar waith yn eu bywydau bob dydd. Ac fe ddaw ar adeg pan mae yna bryder cynyddol ynglyn â iechyd meddwl a lles myfyrwyr.
Yn ddiweddar, mae 94% o brifysgolion wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer y bobol sy’n ceisio cael mynediad at wasanaethau cymorth.
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.