Fe allai cwmni archfarchnad Morrisons fod yn wynebu gorfod talu iawndal “helaeth” oherwydd iddo ‘golli’ gwybodaeth gyfrinachol am ei staff.

Er nad yw’r cwmni’n cael ei gyhuddo o fod yn euog o drosedd, mae’n cael ei ystyried yn flêr.

Dywedodd cyfreithiwr y cwmni wrth y Llys Apêl ei fod yn herio’r dyfarniad wedi iddi ddod i’r amlwg fod “un gweithiwr twyllodrus” yn gyfrifol am rannu gwybodaeth sensitif am weithwyr eraill ar-lein.

Ond, fe gafodd y cwmni rybudd, pe bai barnwyr yr apêl yn cefnogi’r dyfarniad cyntaf, y byddai’n “agored i geisiadau iawndal ar raddfa helaeth”.

Ym mis Gorffennaf 2015, ef gafwyd Andrew Skelton yn euog o dwyll yn Llys y Goron Bradford, wedi iddo gael mynediad heb awdurdod i ddeunydd cyfrifiadurol a datgelu data personol am weithwyr Morrisons. Fe gafodd ei ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar.

Mae grŵp o 5,518 o gyn-weithwyr a gweithwyr presennol yn ceisio iawndal am y gofid a achoswyd.

Ond mae Morrisons yn dadlau na ellir dal y cwmni’n gyfrifol nac yn atebol am y camddefnydd o’r wybodaeth am gefndir troseddol yr unigolion.