Mae mwy o bobol yn dewis mynd ar eu gwyliau ar eu pennau eu hunain i’w cadw’n “gall” ac am nad ydyn nhw am gyfaddawdu, yn ôl ymchwil newydd.

Aeth bron i un o bob chwech o bobol (15%) ar wyliau ar eu pennau eu hunain yn ystod y 12 mis hyd at fis Awst, yn ôl arolwg gan sefydliad masnach teithio ABTA.

Mae hyn yn codi o 12% yn 2017 a 6% yn 2011.

Cael y cyfle i ddewis beth maen nhw eisiau ei wneud yw’r rheswm mwyaf cyffredin pam fod pobol yn teithio ar eu pennau eu hunain, gyda mwy na thri mewn pedwar (76%) yn dweud mai dyna’r achos – gan godi i 92% i bobol 35-44 oed.