Mae’r actores Hollywood, Gwyneth Paltrow, wedi dweud ei bod yn gobeithio y bydd mudiad Me Too yn golygu na fydd cenhedlaeth ei merch yn gorfod wynebu aflonyddu rhywiol.

Mae wedi honni fod y cynhyrchydd ffilm, Harvey Weinstein, wedi rhoi ei ddwylo arni mewn gwesty pan oedd hi’n 22 oed ac awgrymu eu bod yn mynd i ystafell wely er mwyn cael sesiwn tylino, a bod ei phartner ar y pryd, Brad Pitt, wedi ei fygwth.

“Rwy’n credu ei bod hi’n anhygoel gweld faint mae’r diwylliant yn newid,” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.

“Mae merched yn dweud ‘Dyma fy mhrofiad a ni all hyn fod yn brofiad i fenywod wrth fynd ymlaen ac yn sicr nid ar gyfer y genhedlaeth nesaf’.

“Rwy’n teimlo’n falch fy mod wedi bod yn rhan o hyn ac rwy’n credu ei bod yn mynd i gyfeiriad da iawn,” meddai.

Ychwanegodd ei bod wedi gweld newidiadau yng nghanolbwynt technoleg Hollywood a Silicon Valley, a gobeithio y byddai hyn yn golygu y byddai ei merch, Apple, sydd yn ei harddegau, yn tyfu’n rhydd rhag aflonyddu rhywiol.

“Gallaf ddweud wrth glywed dynion yn y diwydiant hwn, mewn iaith y diwydiant technoleg, bod newid seismig wedi bod,” meddai.

“Rwy’n obeithiol iawn y bydd yn parhau a bydd yn brofiad llawer gwahanol i’n merched nag a oedd i ni.”