Mae arweinwyr yr Alban a Chatalwnia wedi cyfarfod i ystyried sut y gallan nhw gydweithio er mwyn hybu economïau ei gilydd.
Yn ôl Pere Aragones, Dirprwy Arlywydd Catalwnia, a oedd yn siarad mewn cyfarfod ymylol yng Nghynhadledd yr SNP, fe fu cyfarfod rhyngddo ef â Nicola Sturgeon ddoe (dydd Sul, Hydref 7).
Mae’n dweud bod gan weinidogion Catalwnia eisoes “berthynas dda iawn” gyda Llywodraeth yr Alban, ac mae’n gobeithio y bydd y berthynas honno’n parhau yn y dyfodol.
‘Cydweithio’
“Nicola [Sturgeon] oedd yr arweinydd gwleidyddol cyntaf y tu allan i Gatalwnia a ofynnodd i Lywodraeth Sbaen roi’r gorau i’r trais yn erbyn Catalwnia, felly rydym ni’n ymwybodol iawn o hynny,” meddai Pere Aragones.
“Fe fyddwn ni’n cydweithio gyda Llywodraeth yr Alban ac mae yna nifer o feysydd lle y gallwn ni gydweithio mewn polisïau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol, felly fe fyddwn ni’n gweithio yn y ffordd honno.
“Dw i’n siŵr y daw buddugoliaethau i ni’n dwy mewn rhai blynyddoedd, ac y byddwn ni’n cael perthynas dda iawn fel dwy genedl annibynnol, sef yr Alban a Chatalwnia.”