Mae’r crwner wedi enwi ail berson a fu farw o ganlyniad i alergedd bwyd ar ôl bwyta cynnyrch o Pret A Manger.

Bu farw Celia Marsh, 42, o Melksham, yn Ysbyty Brenhinol Caerfaddon fis Rhagfyr y llynedd.

Mae lle i gredu bod y nyrs wedi dioddef o alergedd ar ôl bwyta brechdan a oedd yn cynnwys iogwrt a oedd i fod yn ddi-laeth.

Mae Pret A Manger wedi rhoi’r bai ar y cwmni a ddarparodd y cynnyrch iddyn nhw, sef CoYou, am beidio â’u hysbysu’n ddigonol am gynnwys y frechdan, a oedd yn cynnwys olion o brotein llaeth ynddo.

Ond mae CoYou wedi ymateb drwy ddweud bod honiadau’r cwmni bwyd ddim yn wir. Er hyn, maen nhw wedi galw yn ôl eu holl gynhyrchion sy’n cynnwys iogwrt coconyt.

Daw’r wybodaeth am farwolaeth Celia Marsh wrth i Pret A Manger ddod o dan y lach ar ôl i ferch 15 oed o’r enw Natasha Ednan-Laperouse farw ar ôl bwyta baguette yn o ganghennau’r cwmni ym Maes Awyr Heathrow yn 2016.

Ers y digwyddiad, mae ei rhieni wedi bod yn ymgyrchu am fwy o ymwybyddiaeth ynghylch alergedd bwyd a’r angen am ddeddfau labeli bwyd newydd.