Mae dyn ifanc yn ei arddegau wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio ar ôl ymosodiad ar bedwar swyddog yr heddlu.

Bydd Alex Traykov, 19, Brighton Road, Redhill, yn ymddangos yn Llys Ynadon Highbury ddydd Llun i wynebu pedwar cyhuddiad o geisio llofruddio.

Mae wedi cael ei gyhuddo o drywanu dau heddwas ac o anafu dwy blismones.

Cafodd yr heddlu eu galw i dy yn Islington, Llundain, tua 10.45yh nod Sadwrn yn dilyn adroddiadau bod ffrwgwd yno.

Honnir fod y plismyn wedi wynebu “gelyniaeth” a bod gan un o’r dynion gyllell fawr.

Cafodd un o’r ddwy blismones anafiadau i’w phen a dioddefodd yr un arall anaf difrifol i’w harddwrn.

Mae’r pedwar nawr wedi dychwelyd adref o’r ysbyty.

Cafodd ail ddyn, sydd hefyd yn 19 oed, ei arestio ar amheuaeth o achosi ffrwgwd a byrgleriaeth, ac mae wedi’i ryddhau tra mae’r heddlu yn parhau a’u hymchwiliadau.