Mae mwy na thraean o ferched ifanc yn cael eu haflonyddu’n rhywiol yn gyhoeddus oherwydd eu bod nhw mewn gwisg ysgol, yn ôl arolwg newydd.

Mae data gan yr elusen, Cynllun Rhyngwladol y Deyrnas Unedig, yn dangos bod 35% o ferched wedi derbyn sylw diangen yn gyhoeddus pan maen nhw’n gwisgo gwisg ysgol.

Roedd un ym mhob wyth hefyd yn dweud eu bod nhw’n 12 oed neu’n hŷn pan wnaethon nhw ddechrau cael eu haflonyddu.

Mae’r elusen yn galw ar Lywodraeth Prydain i gydnabod gweithredoedd cyhoeddus ar ferched fel cyffwrdd, chwibanu neu syllu ar berson, yn fath o drais sy’n seiliedig ar ryw.

“Ymddygiad annerbyniol”

“Mae’n bryderus iawn bod merched – nifer ohonyn nhw o oed ysgol oherwydd eu bod nhw mewn gwisg ysgol – yn cael eu targedu a’u haflonyddu rhywiol gan ddrwgweithredwyr ar y stryd,” meddai Tanya Barron, Prif Weithredwr Cynllun Rhyngwladol y Deyrnas Unedig.

“Dyw e ddim yn dderbyniol bod merched mor ifanc â 12 oed yn dod yn darged i chwibanu, yn cael eu cyffwrdd yn erbyn eu hewyllys, neu’n cael eu stelcian yn gyhoeddus.

“Mae angen i’r ymddygiad annerbyniol hwn gael ei atal a’i feirniadu.”

Y ffigyrau

Roedd yr arolwg yn cynnwys 1,004 o ferched rhwng 14 a 21 oed.

Dywedodd un ym mhob saith eu bod nhw wedi cael eu dilyn adref tra oedden nhw mewn gwisg ysgol.

Roedd  8% wedyn wedi bod yn darged i berson yn tynnu lluniau neu wneud ffilmiau heb eu caniatâd.