Mae dyn 27 oed wedi cael ei saethu’n farw gan seiclwr ar y stryd yn Lerpwl.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Belle Vale ar gyrion y ddinas toc cyn 11.30 fore heddiw (Hydref 7), yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei saethu ger maes parcio.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae lle i gredu bod y saethwr ar gefn beic a’i fod yn gwisgo dillad du i gyd o dan siaced oren lachar. Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn yn ei 20au, ac o gorffolaeth ganolig.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion.