Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, ar ôl i ddau blismon gael eu trywanu wrth geisio tawelu ffrwgwd.

Cafodd dwy blismones eu hanafu yn y digwyddiad yng ngogledd Llundain nos Sadwrn, yn ôl Heddlu Scotland Yard, gyda’r naill yn cael anafiadau i’w phen a’r llall wedi torri ei garddwrn.

Cawson nhw eu galw i ardal Islington am oddeutu 10.45yh.

Mae ail ddyn 19 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o fod â rhan mewn ffrwgwd.