Fe all ddim cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd tros Brexit arwain at ddirwasgiad, meddai prif weithredwr y Royal Bank of Scotland.

Yn ôl Ross McEwan, sy’n bennaeth ar y banc ers 2013, bydd unrhyw gwymp yn nhwf yr economi yn effeithio ar elw’r banc, sy’n cael ei berchen yn rhannol gan drethdalwyr.

Mae hefyd yn dweud bod y banc eisoes yn ofalus wrth roi arian ar fenthyg i’w cwsmeriaid, ac mae cwmnïau mawr yn oedi cyn buddsoddi, meddai wedyn.

Pryder

“Rydym yn rhag-weld y bydd yna 1-1.5% o dyfiant yn yr economi y flwyddyn nesaf, ond os ydym ni’n cael Brexit gwael yna fe all y tyfiant fod ar sero neu tu hwnt, ac fe fydd hynny’n effeithio ar ein helw a’n gwerth,” meddai.

“Mae busnesau mawr yn oedi. Maen nhw’n dweud: ‘Mewn chwe mis, fe wnawn ni edrych eto ar y Deyrnas Unedig ac efallai y down ni’n ôl. Ond os mae’n wael, rydym yn mynd i fuddsoddi yn rhywle arall’ – dyna beth yw’r realiti heddiw.