Mae’r botel wisgi ddrutaf erioed wedi cael ei gwerthu am £840,750.

Mae’r Macallan Valerio Adami yn cael ei ddisgrifio’n “Greal Sanctaidd” y diwydiant wisgi, ac mae wedi torri record y byd mewn arwerthiant yng Nghaeredin heddiw (dydd Mercher, Hydref 3).

Cafodd y wisgi ei greu yn 1926, a’i roi mewn potel yn 1986 gyda label o waith yr artist pop, Valerio Adami, arni.

Mae’n un o ddim ond dwsin o boteli sydd â’r un label, a chafodd un arall ei gwerthu am £814,081 ym mis Mai eleni.

Does dim gwybodaeth ynglŷn â sawl potel sy’n dal ar ol, ac mae yna gred bod un wedi cael ei dinistrio yn ystod y daeargryn yn Japan yn 2011.