Mae’r Llywodraeth wedi benthyg y swm uchaf erioed ar gyfer mis Awst, wrth i wariant uwch roi pwysau cynyddol ar gyllid cyhoeddus y wlad.

Gyda’r economi yn gwanhau, mae Banc Lloegr wedi awgrymu eu bod yn barod i roi rhagor o arian i fewn i’r economi.

Roedd benthyciadau’r Llywodraeth wedi cod ii £15.9biliwn fis diwethaf, y ffigwr uchaf erioed ar gyfer mis Awst, o’i gymharu a £14 biliwn y llynedd.

Er bod y Llywodraeth wedi benthyg llai yn ystod y misoedd blaenorol, mae’r Ddinas yn rhybuddio y bydd y Canghellor George Osborne yn debygol o fethu a chyrraedd ei dargedau ar gyfer y flwyddyn hon.

Mae’r Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi gostwng eu rhagolygon ar gyfer twf economaidd o 1.5% i 1.1%, ac 1.6% ar gyfer 2012, o 2.3%.