Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi galw am newid arweinydd yn sgil y ffordd y mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn ymdrin â Brexit.

Mae James Duddridge, sy’n cynrychioli etholaeth Rochford a Dwyrain Southend, wedi ysgrifennu at Bwyllgor 1922 y blaid “gyda chalon drom”, yn egluro bod angen “etholiad arweinyddol go iawn er mwyn symud ymlaen”.

Dywed fod nifer o bobol yn “gobeithio y bydd hi’n newid [ei meddwl] tros Brexit ond eto ac eto, dydy hi ddim yn newid, ddim yn gwrando, ddim yn cyflawni, felly rydym yn byw mewn gobaith”.

Dywedodd fod ei gefnogaeth iddi “bron â bod yn anweledig” erbyn hyn, ac nad oes ganddo fe hyder ynddi yn nhrafodaethau Brexit.

Chequers

Wrth drafod Cynllun Chequers Theresa May, ychwanegodd James Duddridge ei fod yn disgwyl “rhagor o’r un peth”.

“Mae Chequers wedi methu, dydy e ddim yn realistig, ddim yn cyflawni o safbwynt y Brexit y gwnaeth fy etholwyr bleidleisio ar ei gyfer.”