Mae un person wedi’i gludo i’r ysbyty yn Peterborough, wedi ffrwydrad mewn ffatri tân gwyllt yn y ddinas.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffatri Le Maitre yn ardal Fengate am 10.43yb heddiw (dydd Mawrth, Hydref 2).

Mae ymchwilad ar y gweill i geisio sefydlu sut y cynheuodd tân a beth achosodd ffrwydrad ar y safle.

Fe gafodd gweithiwr ei ladd mewn digwyddiad blaenorol yn yr un ffatri yn 1990. Bryd hynny, roedd Michael Darroch, 27, yn pacio tân gwyllt oedd yn cynnwys titaniwm a phowdwr gwn, pan ffrwydrodd a’i ladd yn syth.

Bryd hynny, fe gyfaddefodd y cwmni eu bod wedi methu â diogelu eu gweithiwr, ac fe gawson nhw ddirwy o £15,000.