Mae uwch reolwyr House of Fraser wedi cael eu diswyddo, a hynny wythnosau ar ôl i Sports Direct brynu’r cwmni.

Fe gafodd House of Fraser ei brynu gan Mike Ashley o Sports Direct am £90m, gyda’r gŵr yn dweud ei fod yn gobeithio troi ei fusnes newydd yn “Harrods y stryd fawr”.

Mewn cam i newid pethau o fewn y cwmni, mae bellach wedi cyhoeddi mewn datganiad un frawddeg fod yr holl reolwyr wedi gorfod mynd.

“Yn dilyn cwymp House of Fraser ar Awst 10, 2018, a’r galwadau am ymchwiliad i amgylchiadau’r cwymp, mae’r cwmni heddiw wedi cyhoeddi ein bod wedi diswyddo cyn gyfarwyddwyr a rheolwyr House of Fraser,” meddai’r datganiad