Fe fydd un o bob dwy fenyw yn datblygu dementia, clefyd Parkinson neu’n cael strôc yn ystod eu hoes, yn ôl ymchwil newydd.

Tîm o’r Iseldiroedd sy’n gyfrifol am y gwaith ymchwil, a chyn dod i’r casgliad yma wedi iddyn nhw fonitro dros 12,000 o bobol dros gyfnod o ddegawdau.

Yn sgil yr astudiaeth, mae’r ymchwilwyr wedi darganfod bod 48% o fenywod – a 36% o ddynion – 45 oed yn debygol o ddatblygu un o’r tri chyflwr.

Er hynny, mae’r ymchwilwyr yn ffyddiog bod modd lleihau’r ffigyrau yma “cryn dipyn” trwy gyflwyno camau priodol, ac mae elusen amlwg wedi atseinio’r cyngor hwnnw.

“Mae modd i’r rhan fwyaf ohonom leihau’r risg o ddatblygu’r fath afiechydon,” meddai Dr Carol Routledge, cyfarwyddwr ymchwil Alzheimer’s Research UK.

“Mae ‘na ffyrdd o gadw’r ymennydd iachus. Ac mae tystiolaeth yn awgrymu mai’r ffordd orau o wneud hynny yw trwy fwyta diet cytbwys, rheoli’ch pwysau, a chadw’n heini.”