Mae dyn wedi ymddangos gerbron llys wedi ei gyhuddo o ladd dwy ddynes yn Swydd Caint.

Mae Jack Ralph, 28 oed, wedi ei gyhuddo o ladd Margaret Harris, a oedd yn ei 70au, a Sharon Harris, yn ei 50au, ym mhentref Harlow ddydd Sadwrn, Medi 29.

Fe gafodd yr heddlu eu galw gan barafeddygon toc wedi 7.40yb, ble daethon nhw o hyd i dri o bobol wedi’u hanafu.

Fe fu farw dwy ddynes yn y fan a’r lle, ac fe gafodd David Harris, gŵr Sharon Harris, ei hedfan i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Mae Jack Ralph hefyd wedi’i gyhuddo o un achos o geisio llofruddio. Ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Medway trwy gyswllt fideo fore heddiw (dydd Llun, Hydref 1).

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Maidstone ddydd Mercher, Hydref 3.