Dydi cynlluniau Brexit y Prif Weinidog, Theresa May,  ddim yn “berffaith” ond maen nhw’n “ddigon da”, yn ôl Dominic Raab.

Wrth annerch cynhadledd y Ceidwadwyr, mae’r Ysgrifennydd Brexit wedi cydnabod bod y Llywodraeth wedi gorfod “cyfaddawdu”, ond ei fod yn ffyddiog y byddai rhai Torïaid Ewrosgeptaidd wedi bod yn “awyddus iawn” o sicrhau y fath ddêl cyn y refferendwm.

Yn ogystal, mae’r gweinidog wedi rhybuddio Ewrop bod Brexit heb gytundeb yn dal yn bosib, a bod y Llywodraeth yn mynd i wrthwynebu unrhyw “fwlio”.

“Gwawd”

“Mae ein Prif Weinidog wedi bod yn adeiladol a pharchus,” meddai yn Birmingham. “Mae arweinwyr [Ewropeaidd] wedi ymateb i hynny â gwawd.

“Fyddai Brexit heb gytundeb byth yn digwydd, yn ôl rhai. Mae’r farn yna yn anghywir. Ond a fyddai’r Llywodraeth yn gadael i’w hunain gael eu bwlio? Na, yw’r ateb.”

Daw’r sylwadau yma wedi i Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, wrthod cynlluniau Theresa May mewn cynhadledd y mis diwethaf.