Mae cwmni archfarchnad Aldi wedi cadarnhau y bydd yn agor 130 o siopau newydd yng ngwledydd Prydain dros y ddwy flynedd nesaf.

Yn ôl y cwmni, fe fydd yn creu 5,000 o swyddi newydd, ac mae’n rhan o nod y cwmni o agor 1,000 o siopau erbyn 2022.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i Aldi ddatgelu bod gwerthiant wedi cynyddu 16.4% ar draws gwledydd Prydain ac Iwerddon i £10.2bn yn  2017.

Roedd elw’r cwmni wedi codi 26% i £265.9m.