Mae arbenigwyr meddygol wedi cael gorchymyn gan Lywodraeth Prydain i lunio canllawiau er mwyn lleihau effeithiau negyddol gwefannau cymdeithasol ar iechyd meddwl plant.

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, Matt Hancock ei fod yn “gofidio’n fawr” fel tad am y dystiolaeth fod y cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith mor negyddol ar iechyd pobol ifanc.

Prif Swyddog Meddygol Lloegr, y Fonesig Sally Davies fydd yn gyfrifol am baratoi’r canllawiau fydd yn amlinellu am ba hyd y mae’n ddiogel i ddefnyddio gwefannau cymdeithasol – yn debyg i’r canllaw ar gyfer defnydd lefelau diogel o alcohol.

Mae rhai gwefannau cymdeithasol fel Facebook ac Instagram eisoes yn defnyddio teclyn sy’n monitro a chyfyngu faint o amser all plant ei dreulio yn pori.

Ond mae Matt Hancock wedi beirniadu’r ddwy wefan am ddiffyg gweithredu ar y polisi oedran ar gyfer eu defnyddwyr – mae gan y ddwy wefan bolisi sy’n cyfyngu’r defnydd i bobol dros 13 oed, ac mae WhatsApp yn nodi na ddylai unrhyw un o dan 16 oed ddefnyddio’r ap hwnnw.

Yn ôl arolwg ym mis Gorffennaf, dywedodd dau draean o’r rhai a gafodd eu holi y bydden nhw’n barod i roi’r gorau i ddefnyddio gwefannau cymdeithasol am gyfnod er mwyn effeithio’n bositif ar eu bywydau.

Dywedodd Matt Hancock wrth yr Observer, “Mae defnydd heb gyfyngiadau gan blant iau yn creu perygl o fod yn niweidiol iawn i’w hiechyd meddwl.”

Croesawu’r canllawiau

Mae elusen plant Barnardo’s wedi croesawu’r canllawiau.

Yn ôl y prif weithredwr, Javed Khan, mae plant ar gyfartaledd yn treulio pump awr a hanner bob dydd yn pori gwefannau cymdeithasol.

“Mae Barnardo’s wedi bod yn galw ers tro am ganllawiau ar amser defnyddio’r sgrîn a’r defnydd o wefannau cymdeithasol, ac rydym yn croesawu’r ffaith fod y llywodraeth wedi gwrando ar bryderon pobol broffesiynol a rhieni.

“Mae mesurau sy’n mynd â ni gam yn nes at brofiadau ar-lein mwy diogel yn hanfodol wrth hyrwyddo diogelwch y we a lles plant.

“Bydd y canllawiau newydd hyn yn bwysig wrth gefnogi rhieni a gofalwyr i orfodi rheolau ar blant a phobol ifanc ynghylch pryd mae eu hamser ar-lein ar ben.”