Mae dyn 24 oed a dynes 26 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o daro dyn 81 oed a ffoi.

Cafodd y dyn ei anafu’n ddifrifol ar ôl cael ei daro gan feic modur ym Manceinion nos Fercher cyn i’r gyrrwr ffoi ar gyflymdra uchel, ac mae’n dal mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae’r ddau sydd wedi’u harestio’n cael eu holi yn y ddalfa ar ôl i’r heddlu ddod o hyd iddyn nhw yn ardal Moston nos Sadwrn.

Cafodd y dyn 24 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n beryglus, o fethu â stopio ac adrodd am wrthdrawiad, ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd y ddynes 26 oed ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder ac o amharu ar waith cwnstabl.

Mae’r heddlu wedi apelio am dystion.