Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi galw unwaith eto am gynnal etholiad cyffredinol er mwyn “datrys” problemau gwledydd Prydain.

Wrth annerch cynulleidfa o 200 o bobol yn Halesowen yng nghanolbarth Lloegr, dywedodd fod ei blaid yn barod i herio Llywodraeth Geidwadol Prydain yn San Steffan ac o amgylch gwledydd Prydain.

Fe gyfeiriodd at Brexit unwaith yn unig yn ystod ei araith, gan fynnu “nad oedd unrhyw un wedi pleidleisio i golli ei swydd”.

Fe ddywedodd fod gan ei blaid chwe meini prawf er mwyn mesur perfformiad y llywodraeth Geidwadol, ac fe laddodd ar y cyn-Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson gan fynnu bod Brexit yn “ddadl” rhyngddo fe “a gweddill y byd”.

Ansicrwydd

Fe gyfeiriodd hefyd at ansicrwydd y cyfnod sydd i ddod yng ngwledydd Prydain.

“Wn i ddim beth a ddaw dros yr wythnosau i ddod,” meddai.

“Y cyfan rwy’n ei wybod yw y bydd ein plaid, yn gryf, yn benderfynol ac yn unedig, yn mynd â’r frwydr at y Torïaid, yn eu herio nhw yn y Senedd, yn eu herio nhw yn y wlad.

“A’r ffordd orau o ddatrys y problemau hyn yw [cynnal] etholiad cyffredinol.”