Mae swyddogion yr heddlu yn yr Alban wedi derbyn cynnydd o 6.5% yn eu cyflogau.

Mae’r cytundeb cyflog newydd hwn yn golygu y bydd yna gynnydd o £2,300 yng nghyflog cwnstabl sydd ar “bwynt canolig”, gyda £6,000 yn ychwanegol yn cael ei dalu dros y chwe mis nesaf.

Bydd y tâl hefyd yn cael ei ôl-ddyddio i ddechrau’r mis.

Mae Ffederasiwn yr Heddlu yn yr Alban wedi disgrifio’r weithred gyda’r cynnydd cyflog mwyaf y mae heddweision yn y wlad wedi’u derbyn ers dros 20 mlynedd.