Mae dwy ambiwlans wedi cael eu difrodi wedi i frics gael eu taflu atyn nhw o bont dros ffordd yn Birmingham.

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth am y digwyddiad ger cyffordd Aston Lane, rhwng 2.30 a 3 o’r gloch y pnawn, dydd Mawrth (Medi 25).

Fe graciwyd ffenest flaen yr ambiwlans gyntaf tra’r oedd hi ar alwad i helpu claf oedd yn cael trafferth anadlu. Fe fu’n rhaid i’r cerbyd ddod i stop, gan achosi fod y parafeddygon yn hwyr yn cyrraedd y claf.

Fe gafodd yr ail ambiwlans ei tharo jyst uwchben y drws.

Mae’r ddau gerbyd allan o wasanaeth tra’u bod nhw’n cael eu trwsio.