Mae cwest i farwolaeth merch mewn siop frechdanau wedi clywed bod pobol eraill wedi cael eu taro’n wael ar Él bwyta bwyd y cwmni yn y gorffennol.

Bu farw Natasha Ednan-Laperouse, 15, ar hediad o Loegr i Ffrainc ar ôl cael adwaith alergaidd i frechdan yng nghangen Pret a Manger mewn maes awyr.

Roedd y ferch o Fulham, Lloegr, wedi bwyta hadau sesame yn ddiarwybod, a bu iddi farw yn sgil hynny ym mis Gorffennaf 17, 2016.

Clywodd y cwest bod yr hadau wedi’u “cuddio” yn y toes, ac nad oedd yna label i dynnu sylw at hynny ar y deunydd pacio.

Hefyd clywodd y llys bod sawl achos tebyg wedi’u cofnodi yng nghanghennau Pret a Manger dros y blynyddoedd diwethaf.

Sesame

Yn ôl eu log cwynion, mae’r cwmni wedi cofnodi naw achos o ‘adweithiau alergaidd’ yn gysylltiedig â sesame ers haf 2015.

Roedd pedwar o’r rhain wedi gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty, tra bod un arall wedi mynd at ganolfan meddygol.

‘Bagét artisan’ oedd yn gyfrifol am chwech o’r achosion, ac un o’r rhain y gwnaeth Natasha Ednan-Laperouse fwyta.