Mae bachgen 17 oed wedi pledio’n ddieuog i lofruddiaeth dyn 29 oed a gafwyd yn farw yn ei gartref.

Mae wedi’i gyhuddo o ladd Michael Deary, a fu farw yn Fareham, Hampshire, ar Awst 20. Mae’r heddlu wedi cadarhau ei fod wedi diodde’ anafiadau i’w gefn.

Mae’r diffynnydd, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi cyflwyno’i blê gerbron Llys y Goron Winchester heddiw, ac mae wedi’i gadw yn y ddalfa yn Gosport nes y bydd yn sefyll ei brawf ar Ionawr 21.