Mae Llafur yn llansio cynllun radical a fyddai’n gorfodi cwmnïau preifat i ildio 10% o’u cyfrannau i’w gweithwyr.

Dan y drefn yma, byddai’n rhaid i gwmnïau roi cyfrannau i ‘gronfa perchnogaeth gynhwysol’ bob blwyddyn.

Yna, byddai gweithwyr yn derbyn taliadau o’r gronfa – rhyw £500 i bob gweithiwr, bob blwyddyn, yn ôl rhagolygon y Blaid Lafur.

Cwmnïau â dros 249 o weithwyr fyddai’n gorfod cymryd rhan, er y bydd modd i gwmnïau bach fod ynghlwm â’r cynllun o’i gwirfodd eu hunain.

“Rhannu perchnogaeth”

“Dylai gweithwyr sy’n creu cyfoeth eu cwmni fedru rhannu perchnogaeth, a rhannu’r elw,” bydd y Canghellor cysgodol John McDonnell yn dweud wrth gynhadledd y blaid yn Lerpwl.

“Mae tystiolaeth yn dangos bod y fath drefn yn gwneud cwmnïau yn fwy cynhyrchiol, ac yn annog cynllunio hirdymor.”

Ond mae’r CBI wedi rhybuddio y byddai’n atal buddsoddiad gan gwmniau yn y Deyrnas Unedig ac mae’r Ceidwadwyr wedi ei ddisgrifio fel “codiad treth arall.”