Mae tystiolaeth newydd yn awgrymu bod dynion ifanc yn llai tebygol o gael eu cosbi am drais.

Yn ystod 2017-2018, cafodd 31.6% o ddynion 18-24 oed eu barnu’n euog ar ôl cael eu cyhuddo o dreisio.

Ac yn ystod yr un cyfnod, cafodd 45.6% o ddynion 25 i 59 oed eu barnu’n euog, yn ôl ffigurau Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS).

Daeth yr ystadegau i’r fei yn sgil cais rhyddid gwybodaeth gan yr Aelod Seneddol Llafur, Ann Coffey, a’i phryder yw bod rheithgorau yn amharod i gael dynion ifanc yn euog.

Mythau

“Mae’n bosib bod y ffigurau yn adlewyrchu agweddau pennaf cymdeithas,” meddai. “Yn aml mae menywod yn cael eu beio am roi eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus.

“… Mae mythau am drais yn flaenllaw o hyd yn ein diwylliant. Un o’r mythau yma, yw na ddylai menyw gwyno os ydyw’n cael ei threisio ar ôl yfed llawer.”

Ymateb

Mae’r CPS yn dweud eu bod wedi “gweithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf” er mwyn gwella’r ffordd y maen nhw’n delio ag achosion o’r fath.

Ond, mae’r sefydliad yn cyfaddef bod rhagor o waith i’w wneud.

“Mae mynd i’r afael â’r gyfradd isel yma yn her i’r sustem gyfiawnder troseddol cyfan,” meddai llefarydd ar ran y CPS.