Mae Nigel Farage wedi galw arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn “gangsters” wedi iddo ddechrau ar ei ymgyrch ddiweddara’ i rwystro yr hyn y mae’n ei alw’n”Brad Brexit”.

Mae’r cyn-arweinydd UKIP wedi bod yn rhannu llwyfan heddiw (dydd Sadwrn, Medi 22) gyda’r cyn-Weinidog Brexit, David Davis a’r Brecsitwraig o’r blaid Lafur, Kate Hoey, mewn digwyddiad yn Bolton.

Mae Nigel Farage yn dweud y dylai gwleidyddion gwledydd Prydain ddod dan bwysau i beidio â meddwl am ddad-wneud canlyniad refferendwm Brexit.

“Dydi gwleidyddion sy’n meddwl am ddim byd ond eu gyrfaoedd eu hunain, ddim eisiau parchu canlyniad y refferendwm,” meddai Nigel Farage, “ac mae angen ymgyrch draws-bleidiol newydd i wneud yn siwr ein bod yn dod allan o’r Undeb Ewropeaidd.

“Criw o gangsters ydi arweinwyr Ewrop,” meddai wedyn. “Fe eglurwn ni iddyn nhw beth yw cytundeb masnach rydd, os mai dyna ydi eu dymuniad nhw… ond os nad ydyn nhw’n dymuno arwyddo cytundeb felly, fe adawn ni heb ddêl. Dim dêl, dim problem.”