Mae cannoedd o ymgyrchwyr heddwch wedi cynnal rali yng nghartref sybmarîns niwclear llywdoraeth Prydain.

Fe ddaeth tua 600 o bobol at ei gilydd, yn chwifio baneri CND, yn Faslane yn Argyll and Bute yn yr Alban heddiw (dydd Sadwrn, Medi 22) gan ganolbwyntio ar y gatiau i HMNB Clyde, lle llongau tanfor yn cael eu cadw.

Ymhlith y dorf yn y rali a enwyd ‘Nae Nukes Anywhere’, roedd cynrychiolwyr o’r mudiad gwrth-niwclear yn yr Unol Daleithiau, Israel, Rwsia a’r Almaen.

Fe gawson nhw eu croesawu gan Jackie Kay, a ddarllenodd dair cerdd yr oedd wedi’u cyfansoddi ar gyfer yr achlysur.