Nick Clegg
Fe fydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ceisio aildanio brwdfrydedd yr aelodau trwy roi araith gloi’n pwysleisio tegwch.

Fe fydd Nick Clegg yn dweud wrth Gynhadledd Flynyddol ei blaid yn Birmingham ei fod yn brwydro’n gyson yn erbyn y bobol sy’n gwneud yn dda o’r sefyllfa fel y mae hi.

Ac fe fydd yn pwysleisio cynlluniau newydd fel cynnydd yn y Premiwm Disgyblion yn Lleogr i roi’r cyfle i blant di-fraint fynd ar gyrsiau arbennig yn ystod yr haf.

‘Brwydrau anodd’

“I ryddfrydwyr yr unig frwydrau gwerth chweil yw rhai anodd,” meddai, yn ôl dyfyniadau sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw.

“Gadael i ysgolion roi plant tlotach ar flaen y ciw mynediad. Gwneud i brifysgolion agor eu drysau i bawb. Gwneud i gwmnïau weithio’n galetach i gael merched ar eu Byrddau. Agor internships.”

Internships – yr arfer o gael pobol ifanc i weithio am ddim i gwmnïau – yw un o’r dadleuon agored rhyngddo a’r Prif Weinidog, David Cameron, ac mae Nick Clegg wedi bod yn awyddus i ddangos fod pellter rhyngddo a’i bartneriaid Torïaidd.

Mae Llywydd y Blaid, Tim Farron, wedi bod yn feirniadol ac wedi awgrmu nad yw cais am yr arweinyddiaeth yn amhosib.