Mae model o Lundain wedi ei ddedfrydu i o leia’ 25 mlynedd dan glo ar ôl lladd model arall, a hynny wedi ffrae ynghylch ei gariad.

Fe gafodd Harry Uzoka, 25, a oedd yn fodel llwyddiannus yn y ddinas fawr, ei drywanu yn ei galon gan George Koh, 24.

Roedd y ddau wedi trefnu i gyfarfod i ymladd ei gilydd y tu allan i gartref Harry Uzoka yn Sheperds Bush ar Ionawr 22, gan ddod â dau ffrind yr un gyda nhw.

Cafodd yr ysgarmes ei chofnodi ar gamerâu stryd, gan ddangos Harry Uzoka ar lawr yn marw o’i anafiadau ar ôl cael ei drywanu.

Clywodd y llys fod y ffrae’n ymwneud â honiad gan George Koh ei fod wedi cysgu gyda chariad Harry Uzoka, Ruby Campbell, sydd hefyd yn fodel. Mae hi wedi gwadu’r honiad hwnnw.

Fe gafodd George Koh, sydd o Gamden, ei ddedfrydu’n euog o lofruddio ac o fod ym meddiant cyllell.

Mae ei ddau ffrind hefyd wedi’u dedfrydu i gyfnodau hir yn y carchar, gyda Merse Dikanda, 24, yn cael ei ddedfrydu i 22 mlynedd o garchar am lofruddiaeth a bod ym meddiant cyllell, a Jonathan Okigbo, 24, yn derbyn 14 mlynedd am ddynladdiad.