Mae perchnogion y siopau bargeinion B&M wedi eu gorchymyn i dalu dirwy o £480,000, ar ôl pledio’n euog i werthu cyllyll i bobol dan 18 oed.

Fe werthwyd cyllyll torri cig mawr i blant yn Llundain.

Ym mwrdeistref Redbridge y llynedd fe lwyddodd bachgen 15 oed a merch 14 oed i brynu set o bedair cyllell finiog.

Wrth egluro maint y ddirwy, dywedodd y Barnwr Gary Lucie: “Y gwir plaen yw bod nifer y troseddau yn ymwneud â chyllyll yn uwch nag erioed ar hyd y wlad, ac yn enwedig yn Llundain.”

Er yn cydnabod bod y ddirwy yn edrych yn un drom, roedd yn gyfystyr â thua un diwrnod o elw’r cwmni.

Mae gan gwmni B&M Retail 28 diwrnod i dalu’r ddirwy.