Mae cymdeithas foduro yn darogan y bydd prisiau petrol yn gostwng cyn hir.

Yn ôl yr AA, mae’r cwymp o dair ceiniog y litr mewn costau cyfanwerthu y mis hwn yn awgrymu y bydd petrol yn costio llai.

Daw hyn ar ôl 11 wythnos o gynnydd mewn prisiau petrol, gyda phetrol ar hyn o bryd yn costio £1.31 y litr ar gyfartaledd, a disel £1.35.

Mae’r AA hefyd yn dweud bod posibilrwydd y bydd cynnydd yng ngwerth y bunt a chwymp mewn prisiau olew yn ffactor dros leihau prisiau.

Maen nhw’n rhagweld y bydd gyrwyr yn talu £1.50 y tanc yn llai os bydd prisiau’n gostwng.

Codi’r dreth ar betrol?

Er gwaethaf hyn, yna amheuon bod Llywodraeth Prydain yn golygu cael gwared ar yr uchafswm o dreth y maen nhw’n ei rhoi ar betrol.

Mae’r hyn sy’n cael ei gasglu i goffrau’r Llywodraeth ar hyn o bryd yn 50c y litr.

Mae’r ffigwr hwn wedi aros yn ei unfan ers 2011, ond mae disgwyl i’r Canghellor wneud cyhoeddiad yn ei gylch yn ddiweddarach yn yr hydref.